(navigation bar)

28  Pwyll Pendefig Dyfed: A Standardized Text

      Pwyll Pendefig Dyfed a oedd yn arglwydd ar seith
cantref Dyfed. A threiglweith ydd oedd yn Arberth, prif lys
iddaw, a dyfod yn ei fryd ac yn ei feddwl fyned i hela. Sef
cyfeir o'i gyfoeth a fynnei ei hela, Glynn Cuch. Ac ef a
5 gychwynnwys y nos honno o Arberth, ac a ddoeth hyd ym
Mhenn Llwyn Diarwya, ac yno y bu y nos honno. A
thrannoeth yn ieuenctid y dydd cyfodi a orug, a dyfod i Lynn
Cuch i ellwng ei gwn dan y coed. A chanu ei gorn, a dechreu
dygyfor yr hela, a cherdded yn ol y cwn, ac ymgolli a'i
10gydymdeithon.
      Ac fal y bydd yn ymwarandaw a llef yr erchwys, ef a
glywei llef erchwys arall, ac nid oeddynt unllef, a hynny yn
dyfod yn erbyn ei erchwys ef. Ac ef a welei lannerch yn y
coed o faes gwastad; ac fal oedd ei erchwys ef yn ymgael ag
15ystlys y llannerch, ef a welei garw o flaen yr erchwys arall.
A pharth a pherfedd y llannerch, llyma yr erchwys a oedd yn
ol yn ymordiwes ag ef, ac yn ei fwrw i'r llawr.
      Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys, heb
hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac o'r a welsei ef o helgwn y
20byd, ni welsei cwn unlliw ag wynt. Sef lliw oedd arnunt,
claerwyn llathreidd, ac eu clusteu yn gochion. Ac fal y
llathrei wynned y cwn, y llathrei coched y clusteu. Ac ar
hynny at y cwn y doeth ef, a gyrru yr erchwys a laddyssei y
carw i ymdeith, a llithiaw ei erchwys ei hunan ar y carw.
25      Ac fal y bydd yn llithiaw y cwn, ef a welei farchawg
yn dyfod yn ol yr erchwys i ar farch erchlas mawr; a chorn
canu am ei fwnwgl, a gwisg o frethyn llwydlei amdanaw yn
wisg hela. Ac ar hynny y marchawg a ddoeth attaw ef, a
dywedud fal hynn wrthaw, "A unben", heb ef, "mi a wnn pwy
30wyt ti, ac ni chyfarchaf i well it."
      "Ie', heb ef, "ac atfydd y mae arnat o anrydedd fal na's
dylyei."
      "Dioer", heb ef, "nid teilyngdawd fy anrydedd a'm
hetteil am hynny."
35      "A unben", heb ynteu, "beth amgen?"
      "Yrof i a Duw", heb ynteu, "dy anwybod dy hun a'th
ansyberwyd."
      "Pa ansyberwyd, unben, a weleist ti arnaf i?"
      "Ni weleis ansyberwyd fwy ar wr", heb ef, "no gyrru yr
40erchwys a laddyssei y carw i ymdeith, a llithiaw dy
erchwys dy hun arnaw. Hynny", heb ef, "ansyberwyd oedd: a
chynn nid ymddialwyf a thi, yrof i a Duw", heb ef, "mi a wnaf
o anglod it gwerth cann carw."
      "A unben", heb ef, "o gwneuthum gam, mi a brynaf dy
45gerennydd."
      "Pa ddelw", heb ynteu, "y pryny di?"
      "Wrth fal y bo dy anrydedd, ac ni wnn i pwy wyt ti."
      "Brenin corunawg wyf i yn y wlad ydd hanwyf oheni."
      "Arglwydd", heb ynteu, "dydd da it; a pha wlad ydd
50hanwyt titheu oheni?"
      "O Annwfn", heb ynteu. "Arawn frenin Annwfn wyf i."
      "Arglwydd", heb ynteu, "pa ffurf y caf i dy gerennydd
di?"
      "Llyma wedd y ceffy", heb ynteu. "Gwr yssydd
55gyferbyn ei gyfoeth a'm cyfoeth inneu yn rhyfelu arnaf yn
wastat. Sef yw hwnnw, Hafgan frenin o Annwfn. Ac er
gwared gormes hwnnw i arnaf (a hynny a elly yn hawdd) y
ceffy fy ngherennydd."
      "Minneu a wnaf hynny", heb ynteu, "yn llawen. A manag
60ditheu imi pa ffurf y gallwyf hynny."
      "Managaf", heb ynteu. "Llyma fal y gelly. Mi a wnaf a
thi gydymdeithas gadarn. Sef fal y gwnaf. Mi a'th roddaf
di i'm lle i yn Annwfn, ac a roddaf y wreig decaf a weleist
eiroed i gyscu gyda thi beunoeth, a'm pryd inneu a'm
65hansawdd arnat ti, hyd na bo na gwas ystafell, na swyddawg,
na dyn arall o'r a'm canlynwys i eiroed, a wypo na bo mifi
fych ti. A hynny", heb ef, "hyd ym mhenn y flwyddyn o'r
dydd afory. A'n cynnadl yna yn y lle honn."
      "Ie", heb ynteu, "cyd bwyf i yno hyd ym mhenn y
70flwyddyn, pa gyfarwydd a fydd imi o ymgael a'r gwr a
ddywedy di?"
      "Blwyddyn", heb ef, "i heno, y mae oed yrof i ag ef, ar y
ryd. A bydd di i'm rhith yno", heb ef. "Ac un dyrnawd a
roddych di iddaw ef; ni bydd byw ef o hwnnw. A chyd archo
75ef iti rhoddi yr eil, na dyro, er a ymbilio a thi. Er a roddwn
i iddaw ef hagen, cystal a chynt ydd ymladdei a mi
drannoeth."
      "Ie", heb y Pwyll, "beth a wnaf i i'm cyfoeth?"
      "Mi a baraf", heb yr Arawn, "na bo i'th gyfoeth na gwr
80na gwreig a wypo na bo tidi fwyf i. A mifi a af i'th le di."
      "Yn llawen", heb y Pwyll, "a mifi a af rhagof."
      "Dilesteir fydd dy hynt ac ni rusia dim rhagot, yny
ddelych i'm cyfoeth i: a mi a fyddaf hebryngiad arnat."
      Ef a'e hebryngawdd yny welas y llys a'r cyfannedd.
85"Llyna", heb ef, "y llys a'r cyfoeth i'th feddiant. A chyrch y
llys. Nid oes ynddi neb ni'th adnapo; ac wrth fal y gwelych
y gwasanaeth ynddi, ydd adnabyddy foes y llys."
      Cyrchu y llys a orug ynteu. Ac yn y llys ef a welei
hundyeu ac yneuaddeu, ac ystefyll, a'r arddurn tecaf a welsei
90neb o adeiladeu. Ac i'r neuadd rygyrchwys i ddiarchenu. Ef
a ddoeth macwyfeid a gweison ieueinc i ddiarchenu, a phawb
fal y delynt cyfarch gwell a wneint iddaw. Deu farchawg a
ddoeth i wared ei wisg hela i amdanaw, ac i wiscaw eurwisg
o bali amdanaw.
95      A'r neuadd a gyweirwyd. Llyna y gwelei ef teulu ac
yniferoedd, a'r nifer harddaf a chyweiraf o'r a welsei neb yn
dyfod i mywn, a'r frenhines ygydag wynt, yn decaf gwreig o'r
a welsei neb, ac eurwisg amdanei o bali llathreid. Ac ar
hynny, i ymolchi ydd aethant, a chyrchu y borddeu a orugant,
100ac eistedd a wnaethant fal hynn -- y frenhines o'r neill parth
iddaw ef, a'r iarll, debygei ef, o'r parth arall. A dechreu
ymddiddan a wnaeth ef a'r frenhines. Ac o'r a welsei eirioed
wrth ymddiddan a hi, disymlaf gwreig a boneddigeidaf ei
hannwyd a'i hymddiddan oedd. A threulaw a wnaethant
105 bwyd a llynn a cherddeu a chyfeddach. O'r a welsei o holl
lysoedd y ddaear, llyna y llys ddiwallaf o fwyd a llynn, ac
eurlestri a theyrndlyseu.
      Amser a ddoeth iddunt i fyned i gyscu, ac i gyscu ydd
aethant, ef a'r frenhines. Ygydag ydd aethant yn y gwely,
110ymchwelud ei wyneb at yr erchwyn a orug ef, a'i gefn attei
hitheu. O hynny hyd trannoeth, ni ddywod ef wrthi hi un geir.
Trannoeth, tirionwch a ymddiddan hygar a fu yryngthunt.
Peth bynnag o garueiddrwydd a fei yryngthunt y dydd, ni fu un
nos hyd ym mhenn y flwyddyn amgen nog a fu y nos gyntaf.
115      Treulaw y flwyddyn a wnaeth trwy hela, a cherddeu, a
chyfeddach, a charueiddrwydd, ac ymddiddan a chydym-
deithon, hyd y nos ydd oedd y gyfranc. Yn oed y nos honno,
cystal y doi i gof i'r dyn eithaf yn yr holl gyfoeth yr oed ac
iddaw ynteu. Ac ynteu a ddoeth i'r oed, a gwyrda ei gyfoeth
120ygydag ef. Ac ygydag y doeth i'r ryd, marchawg a gyfodes i
fynydd, ac a ddywod fal hynn:
      "A wyrda", heb ef, "ymwerendwch yn dda. Yrwng y deu
frenin y mae yr oed hwnn, a hynny yrwng y deu gorff wylldeu.
A phob un ohonunt yssydd hawlwr ar ei gilydd, a hynny am
125dir a daear. A segur y digawn pawb ohonawch fod, eithr
gadu yryngthunt wylldeu."
      Ac ar hynny y deu frenin a nesaussant ygyd am berfedd
y ryd i ymgyfarfod. Ac ar y gosod cyntaf, y gwr a oedd yn
lle Arawn a osodes ar Hafgan ym mherfedd bogel ei darian,
130yny hyllt yn neu hanner, ac yny dyrr yr arfeu oll, ac yny fydd
Hafgan hyd ei freich a'i baladr dros pedrein ei farch i'r
llawr, ac angheuawl dyrnawd ynddaw ynteu.
      "A unben", heb yr Hafgan, "pa ddylyed a oedd iti ar fy
angeu i?" Nid ydd oeddwn i yn holi ddim iti. Ni wyddwn
135achos it hefyd i'm lladd i: ac er Duw", heb ef, "canys
dechreueist fy lladd, gorffen."
      "A unben". heb ynteu, "ef a eill fod yn edifar gennyf
gwneuthur a wneuthum it. Ceis a'th laddo: ni laddaf i di."
      "Fy ngwyrda cywir", heb yr Hafgan, "dygwch fi oddyma:
140neud terfynedig angeu imi. Nid oes ansawdd imi i'ch
cynnal chwi bellach."
      "Fy ngwyrda inneu", heb y gwr a oedd yn lle Arawn,
"cymerwch eich cyfarwydd, a gwybyddwch pwy a ddylyo bod
yn wyr imi."
145      "Arglwydd", heb y gwyrda, "pawb a ddyly, caníd oes
frenin ar holl Annwfn namyn ti."
      "Ie", heb ynteu, "a ddel yn waredawg, iawn yw ei
gymryd. A'r ni ddel yn ufydd, cymmeller o nerth cleddyfeu."
      Ac ar hynny, cymryd gwrogaeth y gwyr, a dechreu
150gwerescyn y wlad. Ac erbyn hanner dydd drannoeth, ydd
oedd yn ei feddiant y dwy deyrnas.
      Ac ar hynny, ef a gerddwys parth a'i gynnadl, ac a
ddoeth i Lynn Cuch. A phann ddoeth yno, ydd oedd Arawn
frenin Arawn yn ei erbyn. Llawen fu pob un wrth ei gilydd
155ohonunt.
      "Ie", heb yr Arawn, "Duw a dalo it dy gydymdeithas: mi
a'e ciglef."
      "Ie", heb ynteu, "pann ddelych dy hun i'th wlad, ti a
wely a wneuthum i yrot ti."
160      "A wnaethost", heb ef, "yrof i, Duw a'e talo it."
      Yna y rhoddes Arawn ei ffurf a'i ddrych ei hun i Pwyll
Pendefig Dyfed, ac y cymerth ynteu ei ffurf ei hun a'e
ddrych. Ac y cerddawdd Arawn rhacddaw parth a'i lys i
Annwfn, ac y bu ddigrif ganthaw ymweled a'i ynifer ac a'i
165deulu, canís rywelsei ef wy ys talm. Wynteu, hagen, ni
wybuyssynt ei eiseu ef, ac ni bu newyddach ganthunt ei
ddyfodiad no chynt.
      Y dydd hwnnw a dreulwys trwy ddigrifwch a llywenydd,
ac eistedd ac ymddiddan a'i wreig ac a'i wyrda. A phann fu
170amserach cymryd hun no chyfeddach, i gyscu ydd aethant. Y
wely a gyrchwys, a'i wreig a aeth attaw. Cyntaf y gwnaeth
ef ymddiddan a'i wreig, ac ymyrru ar ddigrifwch serchawl a
chariad arnei. A hynny ni orddyfnassei hi ys blwyddyn, a
hynny a feddyliwys hi.
175      "Oi a Dduw", heb hi, "pa amgen feddwl yssydd unddaw
ef heno, nog a fu er blwyddyn i heno?"
      A meddyliaw a wnaeth yn hir. A gwedi y meddwl
hwnnw, dihunaw a wnaeth ef, a pharabl a ddywod ef wrthi hi,
a'r eil, a'r trydydd: ac ateb ni chafas ef genthi hi yn hynny.
180      "Pa achaws", heb ynteu, "ni ddywedy di wrthyf i?"
      "Dywedaf wrthyt", heb hi. "Na ddywedeis ys blwyddyn
y gymeint yn y cyfryw le a hwnn."
      "Paham?", heb ef. "Ys glud a beth ydd
ymddiddanyssam ni."
185      "Mefl im", heb hi, "er blwyddyn i neithwyr o'r pann
elem yn nyblyg yn nillad gwely, na digrifwch, nag ymddiddan,
nag ymchwelud ohonot dy wyneb attaf i -- yn chwaethach a
fei fwy no hynny o'r bu yrom ni."
      Ac yna y meddyliwys ef, "Oi a Arglwydd Duw", heb ef,
190"cadarn a ungwr y gydymdeithas a diffleeis, a gefeis i yn
gydymdeith." Ac yna y dywod ef wrth ei wreig:
      "Arglwyddes", heb ef, "na chabla di fifi. Yrof i a Duw",
heb ynteu, "ni chysceis inneu gyda thi er blwyddyn i
neithwyr, ac ni orweddeis.
195      Ac yna menegi yr holl gyfranc a wnaeth iddi.
      "I Dduw y dygaf fy nghyffes", heb hitheu, "gafael
gadarn a gefeist ar gydymdeith yn herwydd ymladd a
phrofedigaeth ei gorff, a chadw cywirdeb wrthyt titheu."
      "Arglwyddes", heb ef, "sef ar y meddwl hwnnw ydd
200oeddwn inneu tra deweis wrthyt ti".
      "Diryfedd oedd hynny", heb hitheu.
      Ynteu Pwyll Pendefig Dyfed a ddoeth i'w gyfoeth ac i'w
wlad. A dechreu ymofyn a gwyrda y wlad, beth a fuassei ei
arglwyddiaeth ef arnunt hwy y flwyddyn honno i wrth
205ryfuassei cynn no hynny.
      "Arglwydd", heb wy, "ni bu gystal dy wybod: ni buost
gynn hygared gwas ditheu: ni bu gynn hawsed gennyt titheu
treulaw dy dda: ni bu well dy dosbarth eiroed no'r flwyddyn
honn."
210      "Yrof i a Duw", heb ynteu, "ys iawn a beth iwch chwi,
diolwch i'r gwr a fu ygyda chwi, a llyma y gyfranc fal y bu"
-- a'e datganu oll o Pwyll iddunt.
      "Ie, Arglwydd", heb wy, "diolwch i Dduw caffael ohonot
y gydymdeithas honno; a'r arglwyddiaeth a gawsam ninneu y
215flwyddyn honno, ni's attygy ygennym, od gwnn."
      "Nag attygaf, yrof i a Duw", heb ynteu Pwyll.
      Ac o hynny allan, dechreu cadarnhau cydymdeithas
yryngthunt, ac anfon o pob un i'w gilydd meirch a milgwn a
hebogeu a phob gyfryw dlws, o'r a debygei bob un digrifhau
220meddwl ei gilydd ohonaw. Ac o achaws ei drigiant ef y
flwyddyn honno yn Annwfn, a gwledychu ohonaw yno mor
lwyddanus, a dwyn y dwy deyrnas yn un drwy ei ddewred a'i
filwraeth, y diffygiwys ei enw ef ar Pwyll Pendefig Dyfed,
ac y gelwid Pwyll Penn Annwfn o hynny allan.

(navigation bar)
All text copyright © 1996 by Gareth Morgan. Online layout copyright © 2001 by Daniel Morgan.